Daw Eisteddfod yr Urdd i Ben-y-bont ar Ogwr yr haf hwn! Disgwylir gweld degau o filoedd o ymwelwyr yn yr ŵyl ieuenctid deithiol rhwng 29 Mai-3 Mehefin, felly dyma beth ddylech wybod am yr Eisteddfod...
Yn ystod yr ŵyl flynyddol chwe diwrnod hon, bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cystadlu am le ar y brif lwyfan y pafiliwn, yn ogystal â chystadlaethau galwedigaethol fel trin gwallt, newyddiaduraeth a choginio.
Y Pafiliwn â'i 1,800 sedd yw cartref y cystadlaethau a chanolbwynt yr Eisteddfod i bob pwrpas. Yn amgylchynu'r Pafiliwn mae'r Maes, ble y cewch gannoedd o stondinau'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau i'r teulu - o feicio, dringo a sesiynau chwaraeon i ffair, bandiau byw, sioeau plant gyda rhai cymeriadau teledu adnabyddus.
Bydd yr Eisteddfod yn dechrau â chyffro'r Cyngerdd Agoriadol ar 28 Mai yn y Pafiliwn. Siân Lloyd fydd yn cyflwyno Sophie Evans, Only Boys Aloud, Dawnswyr Bro Taf, Steffan Rhys Hughes, Rhydian Jenkins, Côr Adran Bro Taf, ac eraill. Bydd cast y Sioeau Cynradd ac Ieuenctid yn perfformio hefyd!
Mae'r Sioe Ieuenctid yn berfformiad arall i gadw llygad arno. Mae'n digwydd ar 27 a 29 Mai yn Theatr Sony. Bydd y sioe gerdd yn adrodd yr hanes am gariad gwaharddedig a ysbrydolodd y gân werin enwog, 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn'.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn para wythnos gyfan, gan roi'r cyfle perffaith i fwynhau gweithgareddau ac atyniadau Sir Pen-y-bont ar Ogwr y gall yr holl deulu eu mwynhau (mae rhai ohonynt am ddim). Dyma gipolwg ar yr hyn gall eich teulu ei fwynhau...
Codi castell tywod
Mae nifer o draethau tywod glân yn y sir sy'n berffaith ar gyfer adeiladu cestyll tywod. Yn eu Plith mae Traeth Coney a Bae Treco ym Mhorthcawl, yn ogystal â'r hyfryd fae Baner Las, Rest Bay.
Syrffio tonnau Cymru
A thra ein bod ni'n son am ein harfordir prydferth, mae Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn lleoliad delfrydol i'r holl deulu ddysgu sut i syrffio. Mae Ysgol Syrffio Porthcawl yn cynnig sesiynau i ddechreuwyr a grwpiau ar draeth Rest Bay.
Fforiwch adfeilion Castell Ogwr
Yn guddiedig mewn lleoliad godidog dyffryn yr afon, mae Castell Ogwr yn lle gwych i ddarganfod hanes lleol. Gall plant gamu dros y cerrig sarn yng nghysgod yr adfeilion, a bydd tafarn y Pelican gerllaw yn ailagor cyn bo hir gan gynnig lluniaeth.
Mwynhau'r amgylchedd naturiol
Mae'r ardaloedd sy'n cynnwys Gwarchodfa Natur Parc Slip , Parc Gwledig Bryngarw a Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Cenffig yn cynnig erwau lu o laswelltir, coetir a dolau i'w fforio gyda digon o gyfle i blant bach fynd yn agos at fywyd gwyllt lleol.
Ar dy feic!
Efallai nad oeddech chi'n sylweddoli bod Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gyrchfan beicio anhygoel i bob oed. Rhowch gynnig ar feicio trwchus dros dwyni tywod Merthyr Mawr a mynd i'r afael â llwybrau beicio mynydd Darren Fawr neu fwynhau'r daith seiclo ddynodedig newydd sy'n rhedeg rhwng Bae Treco a Rest Bay.
I brynu tocyn Eisteddfod yr Urdd a'i hamryfal berfformiadau, cliciwch y ddolen yma.
Tocynnau Maes yr Eisteddfod:
29 Mai - 2 Mehefin: £13/oedolion; £5/plant 16 ac iau
3 Mehefin: £6.50/oedolion; £2,50/plant 16 ac iau
Pecynnau i'r teulu ar gael hefyd
Tocynnau Cyngerdd Agoriadol/Ieuenctid: £11