dathliadau blwyddyn chwedlau Cymru'n parhau, mae gan Ben-y-bont-ar-Ogwr y lle perffaith i ddechrau'r antur â nifer o weithgareddau ar drothwy'n drws. O ymweld ag un o'r parciau gwledig i feicio ledled twyni tywod mwyaf y DU mae yna rywbeth i bawb! Er mwyn eich helpu chi i gynllunio diwrnod allan i'r teulu dyma grynodeb o'r gweithgareddau epig a'r golygfeydd epig.
1. Syrffio gydag Ysgol Syrffio Porthcawl
Er bod y fangre hon yn llawer llai adnabyddus namannau enwog syrffio Gŵyr a Sir Benfro,maerhai o'r tonau syrffio mwyaf cyffrous yn y DUi'w canfod ym Mhorthcawl a gallwch fanteisio ar y brigdonnau gorau i ddechreuwyr a syrffwyr mwy profiadol. Caiff y rheini sydd am wersi archebu sesiwn agYsgol Syrffio Porthcawl,sef yr Ysgol Syrffio Orau yn y DUyng Ngwobrau Syrffio DU. Felly gafaelwch mewn bwrdd a mwynhewch y syrffio gorau sydd gan Brydain i'w gynnig!
Gwers syrffio i ddechreuwr £30 y pen yn cynnwys siwt wlyb a bwrdd syrffio
2. Dewch i danio'r adrenalin ar deithiau beicio mynydd Darren Fawr
Os ydych chi'n chwilio amrywbeth ychydig yn gyflymachewch iDdyffryn Garwa phrofi tirlun Cymru ar feic mynydd. Y cymoedd i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr ywcartref teithiau beic mynydd Darren Fawr. Mae'r teithiau'n eich tywys drwy gwarel naturiol godidog a thros nodweddion creigiog igreu un o'r setiau mwyaf amrywiol o gyrsiau a gynigir.
3. Mwynhewch yr awyr agored ym mharciau gwledig Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i nifer o barciau gwledig sy'n llefydd perffaith i fforio'r awyr agored â'r teulu i gyd. Ar 7 Mai bydd Parc Bryngarw a Gwarchodfa Natur Parc Slip yn gartref i 'Chwedlau a Straeon' gyda chyfres o ddigwyddiadau sy'n cynnwys adrodd straeon a theithiau cerdded tywys a chyfle i archwilio rhai o dirluniau chwedlonol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae arwydd EPIG Croeso Cymru hefyd ym Mharc Margam tan fis Mai felly ar ôl diwrnod o fforio gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu hunlun epig!
4. Byddwch yn actif gyda Jump Jam
Am weithgaredd amgen i'r teulu beth am roi cynnig ar Jump Jam, parc trampolinio mwyaf Cymru! Mae'r parc yn gartref i ardal fawr o drampolinau â thraciau codwm, pydew ewyn, waliau dringo a thrampolîn perfformio ynghyd â sesiynau a dosbarthiadau rheolaidd i'r teulu. Naid Teulu (i deulu o 4) £25 a Sesiynau Naid Agored o £8.95
5. Profwch dirluniau dynamig wrth fynd am dro ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Yng Nghymrumae peth o'r golygfeydd mwyaf hudoluso warchodfeydd natur i glogwyni mawreddog, gydagArfordir Treftadaeth Morgannwg yn cynnig y cyfle i archwilio'r gorau ar hyd yr arfordir prydferth.O Borthcawl, cerddwch ar hyd yr arfordir i faeRest Bayac edmygu'r clogwyni calchfaen wrth fforio'r pyllau deniadol yn y creigiau,llecyn bach o arfordir Cymrusy'n fan cychwyn perffaith ar gyfer mynd am dro hir neu dro hamddenol ar hyd traethau aur y Bae.
Golygfeydd EPIG
1. Twyni Tywod Merthyr Mawr
Crwydrwch drwy dwyni tywod mwyaf y DU yn cynnwys twyni enfawr Pen-y-bont ar Ogwr a mwynhau'r golygfeydd ar draws arfordir garw De Cymru.
2. Y Bwlch
Mae'r ffordd sy'n arwain at Fynydd y Bwlch yn eich tywys at gyffordd ble gellir mwynhau golygfeydd panoramig godidog sy'n edrych dros ddyffryn Rhondda Fawr i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r gogledd.
3. Castell Coety
Gwnaeth y castell hwn wrthsefyll ymosodiad gan Owain Glyndŵr yn 1404 gyda'i strwythurau carreg crwn a saif ar frig y bryn gan gynnig golygfeydd ar draws tirluniau dynamig Pen-y-bont ar Ogwr.