Lai nag wythnos i fynd ac mae un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ar fin dechrau! Mae hyn yn golygu y bydd yna lawer o deuluoedd llawn cyffro'n dod i adnabod yr ardal - da o beth ein bod yn gartref i atyniadau a gweithgareddau ffantastig i'r teulu. Dyma rai syniadau i wneud y gorau o'ch amser ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod Eisteddfod yr Urdd...
Fforio gwagleoedd naturiol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae yna hefyd fannau naturiol hyfryd i'w fforio. Mannau fel Parc Gwledig Bryngarw, cartref i dros 100 o erwau tir parc prydferth a bywyd gwyllt lleol. Gall y plant fynd ar daith feicio sy'n addas i'r teulu oll ac ymlid y bywyd gwyllt tra bo'r rhieni'n mwynhau'r fflora a ffawna lleol. Beth am ymweld â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig - un o warchodfeydd twyni tywod gorau Cymru gyda'i blanhigion, adar a phryfed arbennig sy'n ddibynnol ar y math hwn o gynefin arfordirol er mwyn goroesi.
Troedio Arfordir Treftadaeth Morgannwg
Mae golygfeydd Cymru gyda'r gorau sydd ar gael, o warchodfeydd natur i glogwyni mawreddog, gydag Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn cynnig cyfle i fforio'r gorau o'r arfordir godidog. O Borthcawl, cerddwch ar hyd yr arfordir i Rest Bay a mwynhau'r clogwyni calchfaen wrth fforio'r pyllau bach yn y creigiau. Dyma lecyn o arfordir Cymru sy'n lleoliad perffaith ar gyfer mynd am dro hir neu fwynhau tro mwy hamddenol ar hyd traethau euraid y Bae.
Dringo neu hyd yn oed seiclo twyni tywod Merthyr Mawr
Efallai nad oeddech chi'n gwybod fod Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i'r twyni tywod ail uchaf yn Ewrop, yn cynnwys y 'Dipiwr Mawr' mawreddog (sy'n berffaith ar gyfer sledio tywod). Mewn gwirionedd, mae si ar led bod y twyni hyn wedi ymddangos yn y ffilm epig a enillodd Oscar; Lawrence of Arabia. Mae Llogi Beic Porthcawl yn cynnig cyfle bellach i deuluoedd fynd arantur beicio trwchusar draws y twyni.
Fforio adfeilion Castell Ogwr a'r cerrig sarn
Mae twyni Merthyr Mawr hefyd yn cuddio adfeilion eiconig a cherrig sarn Castell Ogwr. Caiff rhieni fwynhau crwydro o gwmpas adfeilion godidogCastell Ogwr tra bo'r plant yn camu dros y cerrig sarn gerllaw,hyn oll cyn mynd am dro byr arDraeth Ogwra hamddena wrth droedio traethau'r bae.
Syrffio (neu badl-fyrddio) tonnau Cymru
Er yn llawer llai adnabyddus na mannau syrffio Gŵyr a Sir Benfro, eto i gyd mae gan Ben-y-bont ar Ogwr rai o'r tonnau syrffio mwyaf cyffrous yn y DU. Gall Porthcawl gynnig tonnau gwych i ddechreuwyr a syrffwyr mwy profiadol. Gall y rheini sydd am gael gwersi archebu sesiwn gydag Ysgol Syrffio Porthcawl , a enwyd yrYsgol Syrffio Orau yn y DU yng Ngwobrau Syrffio DU.
Mwynhau atyniadau dan do lleol
Beth os fydd hi'n glawio? Dim problem. Dewch i wneud y mwyaf allan o atyniadau dan do grêt i'r teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Jump Jam yw parc trampolinio dan do mwyaf Cymru - ardal faith o drampolinau â thraciau codwm, pydew swigod a waliau dringo. Yna beth am Fferm Wiggley, cartref i ardal chwarae antur dan do anferthol gyda llithren tiwb, pontydd rhaff a llawer mwy.