Ydych chi'n chwilio am syniadau i ddiddanu'r teulu cyfan dros wyliau'r hanner tymor? O lwybrau wedi'u haddurno â phwmpenni a ffilmiau arswyd, i deithiau hydrefol ac arddangosfeydd tân gwyllt, mae digon o weithgareddau i bawb! Dyma syniadau ar gyfer diddanu'r teulu cyfan yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr dros wyliau'r Hanner Tymor.
Taniwch eich dychymyg yng Ngŵyl Tân a Dŵr Porthcawl
Taniwch eich dychymyg ddydd Sadwrn gyda diwrnod a noson llawn hwyl i'r teulu ym Mhorthcawl. Dewch i fwynhau diwrnod cyfan o weithgareddau glan môr cyn gwylio'r arddangosfeydd tân gwyllt yn goleuo'r nos! Bydd cyfle i wylio perfformwyr tân proffesiynol yn dawnsio, yn jyglo ac yn bwyta tân hyd yn oed!27 Hydref, Sandy Bay, Porthcawl. Am ddim.
Digwyddiad bownsio brawychus Jump Jam
Bydd digwyddiadau Noson Calan Gaeaf Jump Jam yn siŵr o wneud i chi neidio allan o'ch croen! Cewch ddowcio am afalau, cropian i chwilio am losin a lapio'r mymi, a hynny i sain cerddoriaeth arswydus Jump Jam. Bydd gwobrau am y gwisgoedd gorau. Bydd hi'n noson llawn hwyl a gemau a bydd llawer o wobrau i'w hennill, gan gynnwys gwobr am y wisg orau!27 Hydref, 5pm-9pm.
Ffilm am Casper yr ysbryd cyfeillgar
Bydd y ffilm am yr ysbryd hoffus yma'n siŵr o gadw'r rhai bach yn ddiddig. Bydd Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl yn dangos Casper the Friendly Ghost i ddathlu'r wythnos Calan Gaeaf sydd i ddod - ffordd wych o ymlacio cyn i firi'r wythnos ddechrau.29 Hydref, 1.30pm, Tocynnau £4.
Gweithgareddau Hanner Tymor SeaQuest
Bydd Seaquest yn cynnal wythnos gyfan o hwyl i'r teulu dros wyliau'r hanner tymor! Cewch ddysgu creu eich man cysgodi eich hun ar y traeth, ymuno â sesiwn arbennig ar oroesi ar lan y môr a chymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel i'r teulu ar y traeth! Dydd Llun 29 Hydref, Mannau Cysgodi Cregyn 1am - 12.30pm; Goroesi Glan Môr 1pm - 2.30pm; Dydd Mercher 31 Hydref, Fflachio a Disgleirio 1pm - 2.30pm; Dydd Iau 1 Tachwedd, Sesiwn Casglu Sbwriel i'r Teulu ar y Traeth
Chwilio am bwmpenni yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip
Chwiliwch am bwmpenni yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip yn ystod gwyliau'r hanner tymor. Mae yno nifer o lwybrau hunan-dywys a fydd yn eich arwain at wobrau a syrpreisys gwefreiddiol! Sbwyliwch eich hun gyda danteithion dychrynllyd yng nghaffi'r ganolfan ymwelwyr wedyn.Canolfan Ymwelwyr Parc Slip 29 - 31 Hydref, 11am- 3pm. £2 y plentyn, Addas i blant 6 oed neu hŷn.
Byddwch yn barod am barti ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl!
Casglwch o amgylch y crochan a gwisgwch eich clogynnau am brynhawn o anhrefn ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl y Calan Gaeaf yma. Dyma barti i wrachod, bwystfilod, ysbrydion ac ellyllon bach. Bydd yn cynnwys disgo dychrynllyd, gemau parti hwyliog a llwyth o gystadlaethau. Bydd bar i'r oedolion hefyd, a fydd hefyd yn llawn danteithion dychrynllyd!Dydd Mercher, 31 Hydref, sesiynau am 1pm a 4pm.
Gwneud eich llusern eich hun ar gyfer yr Ŵyl Goleuadau
Chwiliwch am eich menig, gwisgwch eich cotiau ac ymunwch â'r Ŵyl Goleuadau flynyddol! Byddwch yn barod am sioe dân gan griw'r syrcas, cerddoriaeth fywiog a gorymdaith llusernau o Dŷ Carnegie i Gaeau Trecelyn. 2 Tachwedd, 5pm-8pm
Arddangosfa Tân Gwyllt Traeth Coney
Gwyliwch y tân gwyllt yn disgleirio dros y môr o Draeth Coney fis Tachwedd. Dewch i gadw'n gynnes wrth y goelcerth o 4pm ymlaen. Bydd ffyn gwreichion ac afalau taffi i'w mwynhau yn ystod y noson yma, a fydd yn llawn goleuadau llachar ac arddangosfeydd disglair!Traeth Coney,3 Tachwedd, 4pm - 11pm.
Taith hydrefol drwy Barc Bryngarw
Dewch i fwynhau lliwiau a ffrwythau'r hydref ym Mryngarw fis Tachwedd drwy fynd ar daith dymhorol drwy'r parc. Ymunwch â'r creaduriaid sy'n byw yn y parc a chael gwybodaeth amdanynt gan eich tywysydd personol.
4 Tachwedd, 10:30am -12pm, £3 y pen.