Beth am roi diwrnod i'w gofio i'ch mam ar Sul y Mamau - mae digon o bethau arbennig i'w gwneud yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. O ddiwrnodau llawn cyffro i noson i ffwrdd mewn gwesty a the Siampên, mae rhywbeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr at ddant pob mam. Dyma ein hoff ddewis ni ar Sul y Mamau eleni!
I'r fam sydd wrth ei bodd â.... Siampên a phethau melys
Beth am drefnu diwrnod pefriog i ddathlu Sul y Mamau eleni gyda The Siampên yn Great House Laleston. Cewch ddewis o frechdanau samwn a chiwcymbr ynghyd â theisennau crwst bendigedig a chacennau ffres. Perffaith i famau sy'n hoffi rhywfaint o steil!
Bwydlen Te Prynhawn ar gael rhwng 3pm a 5pm, Te prynhawn safonol, £15.95. Te Pefriog £21.95, Te Siampên, £23.95.
I'r fam sydd wrth ei bodd â... Choctêl a golygfa
Dathlwch y diwrnod arbennig mewn steil gyda noson o goctêls a golygfa. Bydd eich mam yn siŵr o fwynhau'r jin hyfryd a'r coctêls lliwgar sydd ar gael yn Harbour Bar and Kitchen, lle bydd hi'n teimlo fel ei bod hi ar wyliau, yn edrych allan dros draeth Porthcawl. Ewch am y diwrnod, ac fe fydd Harbour Bar and Kitchen yn cynnig cinio Sul y Mamau dau gwrs i chi yn dechrau o £17.50.
I'r fam sydd wrth ei bodd ag...antur
Os yw eich mam yn hoffi rhywfaint o gyffro, ar Sul y Mamau eleni, beth am drefnu iddi fynd ar gwrs syrffio i ddechreuwyr yn Ysgol Syrffio Porthcawl. Mae Ysgol Syrffio Porthcawl, sy'n un o'r ysgolion syrffio gorau yn y DU, yn darparu gwersi ar gyfer pobl o bob gallu ac oedran. Byddant hyd yn oed yn rhoi bwrdd syrffio a siwt wlyb i'ch mam eu defnyddio. Sesiynau i ddechreuwyr £30.
I'r fam sydd wrth ei bodd â... Natur
Am ddiwrnod allan llawn hwyl i'r teulu, ewch â'ch mam i Warchodfa Natur Parc Slip lle bydd hi'n cael y cyfle i archwilio 300 erw o fywyd gwyllt gwych. Cewch ddarganfod anifeiliaid a phryfaid o bob math, dysgu am eu cynefinoedd ac yna fwynhau bwyd cartref blasus yng nghaffi Parc Slip.
I'r fam sydd wrth ei bodd... yn cael ei phampro
Os oes angen diwrnod o bampro ar eich mam, mae gan Westy Coed-y-Mwstwr yr union beth iddi. Caiff fwynhau noson o wyliau yn un o ystafelloeddboutique y gwesty, sydd wedi'u dylunio'n unigol, a dianc rhag prysurdeb bywyd. Ar ôl noson o ymlacio, beth am drefnu cinio dydd Sul blasus a'r trimins i gyd i'ch mam ym mwyty braf y gwesty, lle bydd pob mam yn cael anrheg arbennig i fynd adref gyda hi.
Ystafelloedd Dethol o £111, £32.95 y pen a £14.95 y plentyn, yn dod gydag anrheg am ddim i famau.
I'r fam sydd wrth ei bodd â...chinio rhesymol
Mae Gwesty Court Colman Manor yn gwybod sut mae mamau'n gwerthfawrogi cinio rhesymol i'r teulu cyfan. Dyna pam mae'n cynnig tri chwrs am £25 i famau ar eu diwrnod arbennig, a gall pob plentyn dan ddeg oed gael pryd o fwyd hanner pris. Mwynhewch ginio rhost traddodiadol a'r trimins i gyd yn neuadd ddawns urddasol Gwesty Court Colman Manor. Bydd mamau hyd yn oed yn cael anrheg am ddim i ddiolch iddyn nhw am eu holl waith caled!
£21 am ddau gwrs, neu £25 am 3 chwrs, bwyd plant yn hanner pris.