Ydych chi'n chwilio am bethau llawn hwyl i'w gwneud dros y Pasg? Mae digon o bethau i'w gwneud yn sir Pen-y-bont ar Ogwr - peidiwch â cholli allan! O'r cinio dydd Sul gorau i helfa wyau WYch ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dyma rai o'r ffyrdd gorau o dreulio'r Pasg yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Gweithdy'r Pasg Cymraeg ei iaith i'r teulu cyfan
Mae'r Pasg yn swnio'n well yn Gymraeg - dyna pam mae'r Grand Pavillion yn cynnal gweithdy'r Pasg Cymraeg ei iaith. Cyfle i'r teulu cyfan ddathlu'r diwrnod mawr! Helfa wyau, ras wy ar lwy fawr gyda Bwni'r Pasg, addurno eich bisgedi Pasg a gwneud eich mwgwd Pasg eich hun - a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
3 Ebrill, 2pm, 0-6 oed, tocynnau o £2.50
http://www.grandpavilion.co.uk/events/3398-welshlanguagefamilyeasterworkshop
Chwilio am ffrindiau ffwr yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip
Beth am ddarganfod byd natur yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip gyda llwybr Pasg hunan-dywys i blant. Goruchwyliwch eich plant tra byddant yn cymryd rhan yn y cwis natur fydd yn eu tywys o amgylch y warchodfa. Pwy a ŵyr pa ffrindiau ffwr y byddwch chi'n eu gweld ar y ffordd!
30 Mawrth - 2 Ebrill, 11am - 3pm, £4 y plentyn
https://www.welshwildlife.org/events/parc-slip-easter-trail/
Cinio Sul y Pasg yn Harbour Bar and Kitchen
Mae bwydlen draddodiadol Gymreig ar gael i chi dros y Pasg eleni yn Harbour Bar and Kitchen, sy'n edrych allan dros harbwr Porthcawl. Mwynhewch wledd o gawl cennin a thatws i'ch cynhesu, coes cig oen blasus a phwdin bara menyn heb ei ail.
Ar gael ar Sul y Pasg rhwng 12pm a 4pm, 2 gwrs £17.50 3 chwrs £22.50
http://harbourbarandkitchen.co.uk/events/event/easter-sunday-lunch/
Helfa WYch ym Mharc Gwledig Bryngarw
Dewch draw i chwilio am dros 7,000 o wyau siocled sydd wedi'u cuddio o amgylch Parc Gwledig Bryngarw dros y Pasg - yn helfa wyau WYch Pen-y-bont ar Ogwr y Pasg hwn. Byddwch yn dechrau eich gweithgaredd celf a chrefft creadigol yn y ganolfan ymwelwyr cyn cychwyn ar yr helfa fawr. Byddwch yn siŵr o gael diwrnod llawn hwyl i'r teulu gyda pherfformiadau bywiog gan y cwmni La La La Productions hefyd!
31 Mawrth - 3 Ebrill, Tocynnau £8.50, Caiff oedolion a babanod sy'n cael eu cario fynediad am ddim ac nid oes angen tocynnau arnynt
http://www.bryngarwcountrypark.co.uk/
Llwybr darganfod yr Arfordir
Archwiliwch gyfrinachau rhyfeddol y môr drwy ddilyn llwybr darganfod yr arfordir dros y Pasg. Cyfle i chi ddod i adnabod creaduriaid arfordirol lleol, canfod pwrs y fôr-forwyn a mwynhau parti plancton i ddathlu'r Pasg a theimlo'n un â'r môr!
12pm-2pm dydd Mawrth 10 Ebrill, The Grand Pavillion
Cysylltwch â i drefnu.
http://www.harbourquarterporthcawl.co.uk/