Ydych chi awydd treulio'r haf eleni ar lan y môr? Mae rhai o ddarparwyr gweithgareddau mwyaf blaenllaw Cymru yn chwilio am hyfforddwyr syrffio profiadol a hyfforddeion i helpu i roi gwersi ar draethau hardd Baner Las De Cymru gydol tymor yr haf 2018.
Mae darparwyr gweithgareddau o Borthcawl, sef Adventures Wales ac Ysgol Syrffio Porthcawl yn dymuno recriwtio hyfforddwyr syrffio profiadol a hyfforddeion i helpu i ymdopi â'r llif mawr o bobl sydd eisiau dysgu syrffio yn un o gyrchfannau syrffio gorau'r DU yn ôl Lonely Planet a The Independent.
Mae'r gyrchfan yn cael trafferth ymdopi â'r cynnydd yn ei phoblogrwydd wrth i fwy a mwy o bobl ddarganfod ansawdd a chysondeb y tonnau a gaiff eu cynhyrchu yma. Mae Bae Rest ym Mhorthcawl yn draeth syrffio delfrydol gan ei fod yn codi'r ymchwyddiadau sy'n cael eu creu gan stormydd ym Môr Iwerydd. Yr un ymchwyddiadau sy'n cyrraedd cyrchfannau syrffio sydd wedi ennill bri fel Cernyw a Dyfnaint, ond dim ond cwta ddwy awr i ffwrdd o Lundain yw Porthcawl, ac felly fe fyddwch chi yn y môr yn llawer cynt.
Mae Adventures Wales yn chwilio am hyfforddwr syrffio profiadol llawn-amser i roi gwersi ym mae Baner Las Bae Rest rhwng Mehefin ac Awst. Bydd y rhai sy'n dymuno ymgeisio am y swydd angen y cymwysterau canlynol: Dyfarniad Achub Bywyd NVBLQ cyfredol (neu gymhwyster cyfatebol) a Dyfarniad Hyfforddwr Syrffio Achrededig.
Os oes gennych chi'r profiad a'r cymwysterau perthnasol gallwch e-bostio CV byr at
Mae Ysgol Syrffio Porthcawl hefyd yn chwilio am hyfforddwyr syrffio profiadol a hyfforddeion. Mae ysgol syrffio Porthcawl yn ymfalchïo yn ei strwythur gwersi blaengar ac wedi cael enw da fel ysgol syrffio o ansawdd rhagorol. Mae eu hathroniaeth yn ymwneud â chanolbwyntio ar ddysgu popeth y mae angen i chi ei wybod mewn un wers, ond bydd angen i chi ddod yn ôl i roi'r wybodaeth honno ar waith.
Os ydych chi'n syrffiwr galluog a diddordeb gennych mewn dod yn hyfforddwr, bydd modd i chi ennill eich Dyfarniad Hyfforddwr Syrffio Achrededig wrth i chi wneud y swydd. Anfonwch CV byr at