Ar gyfer y nesaf yn ein cyfres Arwyr Arfordirol, rydyn ni'n sgwrsio gyda Nigel Jones o Adventures Wales ynglŷn â'i amser fel pencampwr sgio tonnau a phryd yw'r adeg orau i syrffio yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
Sut daeth Adventures Wales i fodolaeth?
Yn ystod streic y glowyr roeddwn i'n creu byrddau syrffio i geisio dal dau ben llinyn ynghyd - ond doedd hynny ddim mor braf ag y mae'n swnio! Crafu byw oeddwn i ac fe ges i lond bola ar chwistrellu a sandio mewn ystafell fach llawn llwch felly penderfynais ddilyn llwybr a fyddai'n ffordd i mi barhau â fy niddordebau yn yr awyr agored.
Pa fath o weithgareddau all pobl eu trefnu gydag Adventures Wales?
Rydyn ni'n cynnig pob math o weithgareddau dŵr yn y ganolfan, o arforgampau a cheunanta i syrffio, caiacio tonnau a chorff-fyrddio. Mae gennym ni rai o padl-fyrddau enfawr i sefyll arnynt hefyd, sydd â digon o le i ryw 10 o bobl - maen nhw'n hwyl.
Oes rhywbeth newydd ar y gorwel i Adventures Wales?
Rydyn ni'n wastad yn ceisio ychwanegu rhywbeth newydd at y busnes. Erbyn hyn, mae gennym ni bethau fel saethyddiaeth, dringo, pledu paent, a gêm laser, ac mae mwy o syniadau ar y gweill - ond gan mai paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf ydyn ni, bydd rhaid i hynny aros yn gyfrinach am y tro.
Rwyt ti'n gyn-bencampwr sgio tonnau Cymru. Dywed ychydig am y gamp a sut wnest ti ddechrau arni?
O ganlyniad i streic y glowyr doedd dim llawer o swyddi ar gael yng Nghymru pan oeddwn i'n gadael y coleg. Roeddwn i'n syrffio llawer a chyn bo hir roeddwn i'n cystadlu ar sgio tonnau. Mi gadwodd hynny fi'n brysur ar lefel bersonol. Mae'n debyg i gaiac ond rydych chi'n eistedd arno yn hytrach nag ynddo. Enillais i Bencampwriaeth Genedlaethol Cymru cwpl o weithiau am sgio tonnau. Doeddwn i byth am fod yn chwaraewr rygbi neu'n chwaraewr pêl-droed mawr felly roedd yn dda cael camp ymylol y gallwn i gystadlu ynddi ar lefel genedlaethol.
Ydych chi'n meddwl fod sgio tonnau a caiacio tonnau yn cynyddu yng Nghymru, neu hoffech chi weld mwy ohonyn nhw?
Syrffio sydd fwyaf poblogaidd yng Nghymru, ond mae caiacio tonnau hefyd yn dod yn eithaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'n ddewis arall yn lle syrffio i bobl sydd eisiau mynd ar y dŵr heb orfod dysgu sut i godi ar eu traed ar y bwrdd.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am Sir Pen-y-bont ar Ogwr?
Fy hoff beth am yr ardal yw pa mor agos yw popeth. Mae cynifer o draethau syrffio yn y DU sy'n bell o'r dref agosaf, ond does dim bwys ble rydych chi'n byw ym Mhorthcawl gallwch chi gyrraedd y dref a'r traeth. Mae'n berffaith!
Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?
Cyn gynted ag rydw i'n gorffen y gwaith byddaf yn mynd at y tonnau gyda fy mab sy'n 12 oed. Mae e newydd ddechrau cystadlu felly mae'n wych treulio amser da gyda'n gilydd ar y tonnau. Mae'n golygu manteisio ar yr adegau pryd mae'r holl elfennau yn eu lle. Rydyn ni mor lwcus ein bod ni'n gallu cael cwpl o oriau ar y dŵr - dyw hynny ddim mor bosibl i bobl sy'n byw ymhellach i ffwrdd. Gan fod y traeth ar garreg y drws, mae popeth o fewn cyrraedd.
Petaech chi'n gallu dweud rhywbeth i ysbrydoli pobl yn ne Cymru sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, beth fyddech chi'n ei ddweud?
Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau mynd ar y dŵr fyddai dyfalbarhau a pheidio â thorri'ch calon os nad ydych chi'n llwyddo i wneud beth oeddech chi wedi obeithio ei wneud. Yn fy marn i, mae chwaraeon dŵr yn golygu cael hwyl a mwynhau'r haul ac ymarfer corff ar yr un pryd. Peidiwch â phoeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl, rhowch gynnig arni. Ewch i draeth lle mae achubwyr bywyd ar gael, a gofynnwch iddyn nhw am gyngor cyn mynd ar y dŵr.
Yn olaf, os yw pobl eisiau ymuno ag Adventures Wales pryd fyddai'r adeg gorau o ran y tymhorau. Fydden nhw'n gallu mynd ar y dŵr nawr?
Bydd y tymor ar ei anterth rhwng nawr a mis Hydref. Mae'r dŵr yn twymo lan yn barod felly mae'n amser perffaith i gymryd rhan.