Ydych chi angen pethau hwyliog i'w gwneud dros benwythnos gŵyl banc Mai? O fwynhau gwrando ar gôr y bore bach neu fynd lawr i'r traeth, mae gan Ben-y-bont ar Ogwr ddigon o weithgareddau hwyliog i wneud y penwythnos hwn yn un i'w gofio. Eisteddwch i lawr, ymlaciwch a mwynhau eich gŵyl y banc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach gyda Gwarchodfa Natur Parc Slip
Dathlwch synau natur gyda thaith dywys o gwmpas Gwarchodfa Natur Parc Slip. Cewch ddysgu am y gwahanol synau a geir yng nghôr y bore bach cyn mwynhau llond bol o frecwast yn ôl yn y siop goffi. Cofiwch ddod â'ch ysbienddrych a fflasg o de gyda chi i'ch cynnal yn ystod y dathliad rhyngwladol rhyfeddol hwn!
Mynd i draeth Porthcawl
Paratowch am dywod euraidd, ewyn gwyn a lliw haul gyda thaith i Borthcawl y penwythnos hwn. Iawn, efallai ein bod ni'n bod yn obeithiol, ond mae Wales Online newydd restru Porthcawl fel un o'r 12 prif draeth yng Nghymru i ymweld â nhw dros benwythnos gŵyl y banc. Beth am wibio i'r tonnau gydag Ysgol Syrffio Porthcawl neu fynd ar FatBike dros dwyni tywod Merthyr Mawr ar antur gyffrous ac arbennig dros ŵyl y banc?
Gwersi syrffio o £30, yn cynnwys llogi bwrdd a siwt wlyb Llogi Fatbike o £10 yr awr
Cael te gydag Oscar Wilde ym Mhafiliwn Porthcawl
Mwynhewch ychydig o adloniant ysgafn gyda'r perfformiad theatr unigryw hwn yn null sioe siarad. Ymunwch ag Oscar Wilde wrth iddo gyfweld enwogion blaenllaw o oes Fictoria mewn sioe yn llawn clecs, caneuon, hiwmor ac ambell syrpreis hefyd, wrth gwrs!Tocynnau: £4.50 o Lyfrgell Pencoed
Dysgu caiacio lle mae'r don yn torri gydag Adventures Wales
Cyfle i'r teulu cyfan fentro i'r dŵr y penwythnos hwn gydag antur syrffio unigryw. Ymunwch ag Adventures Wales i ddysgu caiacio neu sgïo drwy ewyn grymus Porthcawl. Dan arweiniad arbenigwyr, mae croeso i rai o bob oedran a gallu - delfrydol i deuluoedd sy'n gobeithio rhoi cynnig ar rywbeth newydd! Ffoniwch 01656 782 300 i gael rhagor o wybodaeth
Archwilio olion hen gastell
Ewch â'r teulu am dro hyd arfordir treftadaeth Morgannwg i ddarganfod olion hen gastell Pen-y-bont ar Ogwr. Croeswch y cerrig camu sy'n arwain at gastell Ogwr cyn taro golwg tu mewn. Neu beth am fynd i ryfeddu at olion syfrdanol Castell Coety, yr adfail hudolus a adeiladwyd gan un o ddeuddeg marchog chwedlonol Morgannwg. Castell Ogwr mynediad Am Ddim, agored bob dydd 10am-4pm. Castell Coety mynediad Am Ddim, agored bob dydd 10am - 6pm