Mae Home & Colonial yn siop delicatessen sydd wedi ennill gwobrau, ac mae'n gwerthu cacennau cri wedi'u pobi'n ffres, bara cartref a nwyddau blasus wedi'u mewnforio. O bwysigrwydd cynnig gwasanaeth personol i fenter caffi newydd ym mhentref Newton, cawsom gyfle i siarad â Stuart, y perchennog, am greu brwdfrydedd ynghylch bwydydd blasus ym Mhorthcawl.
Beth ydy hanes Home & Colonial?
Rydym ar ein nawfed flwyddyn erbyn hyn, ar ôl i ni benderfynu gadael prysurdeb bywyd ac agor fan hyn. Roedd angen i ni gymryd cam yn ôl a rhoi amser i ni ein hunain, a dyma sut ddechreuodd Home n Colonial!
Siop delicatessen ydym ni, ac rydym ni'n gwerthu amrywiaeth o fwydydd lleol ac arbenigol. Rydym ni'n gweithio gyda thri phobydd lleol sy'n cynhyrchu amrywiol eitemau i ni, gan gynnwys cacennau a bara. Maen nhw'n dilyn ein ryseitiau ni ac mae'r cynnyrch yn cael eu gwerthu yn y siop. Rydym yn gwerthu peis, cacennau crwst, cacennau cri a phasteiod arbenigol o Gernyw hefyd.
Rydym ni'n mewnforio cacennau crwst o'r Eidal, yn ogystal ag olifau, salami a chawsiau o'r Eidal i fynd â'r amrywiaeth helaeth lleol o Gymru. Rydym yn defnyddio rysáit mam-gu a tad-cu i wneud ein ffagots traddodiadol sy'n boblogaidd dros ben. Mae ein hwyau selsig yn boblogaidd hefyd, ac mae dros ddeg gwahanol rai yn cael eu gwerthu gan gynnwys un â melynwy meddal. Rydym ni'n cael ein cig gan Douglas Willis yng Nghwmbrân er mwyn sicrhau'r safonau uchaf.
Pam Porthcawl? Beth sydd gan Borthcawl i'w gynnig sy'n ei wneud yn unigryw?
Aethom ni i deithio ychydig cyn i ni agor y siop i benderfynu a oeddem ni am symud i rywle arall neu aros ym Mhorthcawl. Fe wnaeth hyn i ni sylweddoli yn y diwedd bod popeth oedd ei angen arnom ni yma ym Mhorthcawl. Mae'r lle yn gyrchfan glân y môr ac mae llawer o ymwelwyr yn dod i'r ardal felly rydym ni'n cadw mwy o stoc na'r dref fach arferol.
Disgrifiwch brofiad nodweddiadol y cwsmer yn Home & Colonial
Mater yw o roi'r math o brofiad i'r cwsmeriaid na fyddent yn ei gael yn unrhyw le arall. Rydym ni'n meddwl ei bod yn bwysig rhannu ein gwybodaeth am fwyd a hefyd am draddodiadau Cymreig, felly rydym ni'n dweud popeth am bob dim wrth ein cwsmeriaid. Rydym ni'n pobi cacennau cri yn ffres drwy'r dydd ac yn eu gwerthu'n syth o'r plât poeth. Mae'n arogl yn anfarwol. Gallwn rannu hanes y gacen gri, pa gaws sy'n iawn ar gyfer achlysuron penodol neu sut ac ymhle y cafodd pob mêl lleol ei wneud. Mae'n brofiad personol iawn ac mae pobl yn dod yn ôl dro ar ôl tro.
Beth yw rhan gorau eich swydd?
Y bobl, heb os nac oni bai. Rydym ni'n cwrdd ag amrywiaeth o bobl bob dydd, a dyna sy'n gwneud ein gwaith ni mor arbennig.
A'r rhan anoddaf?
Yr oriau hir!
Beth allwch chi ei ddweud am eich caffi newydd yn Newton?
Enw'r caffi ydy The Potting Shed ac fe agorodd ym mhentref Newton yr wythnos diwethaf. Fy mhartner Abbe sy'n rhedeg y caffi, ac mae wedi cael ei enwi ar ôl rhandir mae hi newydd ddechrau gofalu amdano. Mae'r caffi yn cynnig te a choffi yn ogystal â byrbrydau a chacennau crwst. Rydym ni'n defnyddio coffi o'r Eidal, yn mewnforio dau fath o ffeuen ac yn eu cyfuno i greu ein coffi unigryw ein hunain. Mae'r bobl leol wedi bod yn arbennig, ac mae popeth yn mynd yn dda hyd yma!
Beth ydych chi'n ei fwynhau am Borthcawl?
Mae cymaint o amrywiaeth ym Mhorthcawl ac mae'n anodd dod o hyd i hyn yn unrhyw le arall. Mae'n agos at yr M4, sy'n golygu bod modd cyrraedd Abertawe a Chaerdydd o fewn 40 munud. Mae glân y môr ar stepen ein drws, sy'n cael yr haul drwy'r dydd, ac mae'r cyfan dafliad carreg o'r mynyddoedd mwyaf anhygoel. Rydym ni wrth ein bodd â'r amrywiaeth sydd yma.