Dydy'r haf ddim drosodd eto, ac mae digon o ddigwyddiadau Morluniau'n i'ch diddanu chi ym Mhorthcawl ym mis Medi! O Ŵyl Ffilmiau'r Môr i'r casgliad mwyaf o ddynwaredwyr Elvis yn Ewrop - byddwch yn teimlo fel pe na fyddai'r haf ond newydd ddechrau!
Dewch i weld y môr o safbwynt syrffwyr o safon fyd-eang
Dewch i weld y môr drwy lygad un o syrffwyr gorau'r byd, Andy Irons. Cyfle i fwynhau Kissed by God yn rhad ac am ddim. Bydd digwyddiadau dan do Morlun Porthcawl yn dechrau gyda ffilm Andy Irons, Kissed by God, ar 6 Medi am 7.30pm ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl.
http://www.awen-wales.com/cy/digwyddiadau/3670-filmandyironskissedbygod
Ymlaciwch a gwyliwch y tonnau yng Ngŵyl Ffilmiau'r Môr
Yn galw ar bawb sy'n mwynhau'r môr! Paratowch i ymlacio yn ystod Gŵyl Ffilmiau'r Môr, sy'n ddigwyddiad blynyddol, a fydd yn dod i Borthcawl gyda detholiad o'r ffilmiau diweddaraf am y môr. Mwynhewch gasgliad yr ŵyl o ffilmiau byr ar thema'r môr, gan y tîm sy'n gyfrifol am Daith Gŵyl Ffilmiau Banff yn y DU. Y ffordd berffaith i ymlacio ar ddiwedd yr haf. Mae modd i chi weld Gŵyl Ffilmiau'r Môr Banff am 7.30pm ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl ar 7 Medi.
http://www.awen-wales.com/cy/digwyddiadau/3442-2018oceanfilmfestivalworldtourprivatehire
Ymunwch â'r Usherettes ym Mharadwys Hawäi
Ymunwch ag Usherettes anhygoel Porthcawl i wylio ffilm lwyddiannus Elvis, Blue Hawaii. Y triawd Kitsch n Sync, yr Usherettes, sy'n cynnal y noson, a gall y gwesteion ddisgwyl digon o syrpreisys i'w diddanu! Ymhyfrydwch yn harddwch ynysoedd Hawäi, Oahu a Kauai a rhyfeddu ar y Brenin, cyn i ŵyl Elvis Porthcawl ddechrau ar y diwrnod canlynol.
Dydd Iau, 27 Medi am 5.30pm http://www.grandpavilion.co.uk/cy/digwyddiadau/3671/film-blue-hawaii-u/
Gwisgwch eich esgidiau swêd glas yn barod ar gyfer Gŵyl Elvis Porthcawl!
- Ymgolli mewn profiadau chwaraeon dŵr
Safwch ar fwrdd syrffio a mwynhewch brofiad panoramig o syrffio yn Rest Bay. Bydd ein hystafell ymgolli newydd sbon yn agor yn yr hydref! Mwynhewch y golygfeydd, syrffiwch y tonnau, a chewch weld gyda'ch llygaid eich hun sut beth yw syrffio ym Mhorthcawl. Cadwch eich llygaid ar agor am ragor o wybodaeth.
- Adloniant wedi'i ysbrydoli gan Elvis
Ar ôl yr holl weithgareddau, beth am ymuno â miloedd o ffans Elvis ym Mhorthcawl ar gyfer y casgliad mwyaf o ddynwaredwyr Elvis yn Ewrop? Dros y penwythnos, bydd Hi Tide Inn yn cynnal dros 100 o sioeau Elvis i chi gael eu mwynhau. Hefyd, bydd nifer o ddigwyddiadau ar thema Elvis yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl. Dewch i fwynhau The Three Kings Show, The Elvies, a hyd yn oed Red Alert, sy'n cael ei ystyried y band Elvis gorau yn y byd. Ac os nad ydych chi wedi cael digon o roc a rôl yn barod, bydd ugain lleoliad arall yn y dref a'r cyffiniau'n cynnal digwyddiadau fel rhan o'r ŵyl ymylol. 28 - 30 Medi http://www.elvies.co.uk
Mae prosiect Morlun Porthcawl wedi cael cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a chefnogaeth drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach drwy gydweithio.