Ydych chi erioed wedi dymuno dysgu cyfrinachau rhai o adeiladau mwyaf diddorol Sir Pen-y-bont ar Ogwr? Drwy gydol mis Medi, bydd rhai o'n mannau mwyaf hanesyddol yn cynnig mynediad uniongyrchol i'w safleoedd hynafol a'u straeon unigryw. O adeiladau rhestredig Gradd II i Bencadlys yr Heddlu, dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am Fis Drysau Agored ym mis Medi.
Image : Cadw.gov.wales
Dewch i weld y man hynafol lle gwnaeth Santes Cein gartrefu
Treuliwch benwythnos ym mis Medi yn archwilio Eglwys Santes Cein yn Llangeinor. Mae'r adeilad Normanaidd hwn wedi cael ei adeiladu ar safle treftadaeth Gristnogol o'r 6ed ganrif, lle gosododd Santes Cein ei hun ei chell. Dysgwch am deithiau'r santes a sut cyrhaeddodd hi Langeinor brydferth yn y pen draw. Ar ben hynny bydd bwyd a diod blasus ar gael, yn ogystal â hanesion hynafol am yr eglwys a'r ardal gyfagos.
1 - 30 Medi. 12pm - 3pm
Profiad o fywyd y tu mewn i Gell Heddlu o Oes Fictoria
Ydych chi erioed wedi bod eisiau gweld y tu mewn i bencadlys yr heddlu?Ym mis Medi, mae gwahoddiad i ymwelwyr fynd yr holl ffordd lawr i seler pencadlys Heddlu De Cymru. Cewch brofiad o fywyd mewn cell heddlu o oes Fictoria, a hynny gyda charcharor preswyl, a chael cipolwg ar ystafell gyhuddo o oes Edward. Gallwch chi hyd yn oed archwilio'r Ganolfan Dreftadaeth sydd newydd ailagor, er mwyn cael yr olwg gyntaf y tu ôl i fyd yr heddlu yn ne Cymru.
21 - 22 Medi. Mae pob ymweliad yn para rhwng awr ac awr a hanner; rhaid archebu eich lle.
Dysgwch am drychineb gwaith glo Parc Slip yn Nhondu
Dewch i glywed hanes enbyd trychineb gwaith glo Parc Slip yng Nghanolfan yr Eglwys Wesleaidd, Tondu. Bydd eglwys Tondu'n coffáu ffrwydrad trychinebus 1892, lle bu farw 112 o ddynion a bechgyn lleol. Bydd cyfle i ymwelwyr fynd at wraidd digwyddiadau'r diwrnod hwnnw, a dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol pentref Tondu. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip gerllaw.
28 Medi. 10am -3pm
Dewch i dynnu'r llen oddi ar hanes unigryw Pen-y-bont ar Ogwr yn Nhŷ Sant Ioan
Yr adeilad hynaf o'i fath yn y dref, bydd Tŷ Sant Ioan yn datgelu Hanes Pen-y-bont ar Ogwr ddiwedd y mis. Dewch i gael golwg ar fapiau llawn gwybodaeth o amser maith yn ôl, a dysgu gwybodaeth unigryw am y dref. Mae'r Comisiwn Brenhinol yn disgrifio'r adeilad rhestredig Gradd II, a gafodd ei adeiladu tua 1511, fel tŷ o statws uchel ac arwyddocâd mawr - dewch i weld â'ch llygaid eich hun!
29 Medi, 11am - 3.30pm